Rhyddid Gwybodaeth a chanllaw i wybodaeth cynllun cyhoeddi'r FCA

Mae'r FCA yn cyhoeddi, fel mater o drefn, wybodaeth am ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau, gwybodaeth mewn rhestrau a chofrestrau, a gwybodaeth am ein gwasanaethau.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Yr FCA a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Saesneg yn unig) - mae hyn yn cynnwys sut i wneud cais 'Hawl i Wybod' am wybodaeth a'r broses ar gyfer adolygiad mewnol (Saesneg yn unig).

Ceir trosolwg o weithdrefnau'r FCA (gan gynnwys y strwythur codi tâl) ar gyfer cydymffurfio â'r gofynion o ran ymdrin â cheisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth o dan brosesau Rhyddid Gwybodaeth (Saesneg yn unig).

Dysgwch fwy am pa wybodaeth y gallwn ei rhannu â chi (Saesneg yn unig).

Canllaw i wybodaeth am y cynllun cyhoeddi

Mae'r FCA yn cyhoeddi, fel mater o drefn, wybodaeth am ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau, gwybodaeth mewn rhestrau a chofrestrau, a gwybodaeth am ein gwasanaethau. Bydd yr adrannau canlynol o'n Canllaw i wybodaeth yn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth honno.

Mae ein tudalen Canllaw i wybodaeth am y cynllun cyhoeddi (Saesneg yn unig) yn cynnwys manylion am ein trefniadau gweinyddol megis codi tâl am gyhoeddiadau, sut i wneud cais am gyhoeddiadau a sut y darperir y wybodaeth honno.