Ein system ar-lein ar gyfer casglu a storio data rheoleiddio gan gwmnïau yw Gabriel.
Cofrestru ar gyfer ein platfform casglu data newydd
Byddwn yn symud i blatfform casglu data newydd fydd yn cymryd lle Gabriel.
I baratoi ar gyfer y symud, o’r 2il o Ebrill bydd defnyddwyr Gabriel yn cael cais i gwblhau gweithred cofrestru orfodol un-tro y tro nesaf byddwch yn mewngofnodi.
Darganfyddwch fwy am hyn: cofrestru ar gyfer ein platfform casglu data newydd (dogfen Saesneg).
Defnyddiwch Gabriel i:
- gyflwyno data rheoleiddio - gweler dulliau cyflwyno
- gweld amserlen wedi’i theilwra o’ch gofynion adrodd
- gweld eich holl gyflwyniadau mewn un lle
- argraffu eitemau data
Mewngofnodi
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i dudalen ‘croeso’ Gabriel. O’r fan honno, gallwch fynd ymlaen i’r sgrin mewngofnodi.
Newyddion diweddaraf
Gweler ein Hadran Newyddion Diweddaraf am fanylion diweddariadau i systemau allweddol a gwybodaeth bwysig arall.
Ymadael a’r UE
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ond mae cyfreithiau’r UE yn parhau yn gymwys hyd ddiwedd y cyfnod trosiannol a gytunwyd fel rhan o’r Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE. Ni fydd canllawiau deongliadol yr FCA ar gwblhau ffurflenni (canllaw ar gwblhau ein ffurflenni yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE) yn gymwys yn ystod y cyfnod trosiannol ac nid ydym wedi newid ein ffurflenni.
Cwblhewch y ffurflenni fel yn flaenorol hyd nes clywed yn wahanol.
Oriau gweithredol
Llun i Gwener: 7am i 10pm
Sadwrn a Sul: 8am i 5pm
Darperir cefnogaeth gan y ganolfan gyswllt, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm, ac eithrio gwyliau banc.
Hyfforddiant ar-lein
Rydym wedi diweddaru’r pecyn hyfforddi ar-lein i Gabriel yn ddiweddar. Rydym wedi’i gwneud hi’n haws i fynd o un lle i’r llall ac wedi cyflwyno rhai pynciau newydd, yn cynnwys:
- sut i gofrestru am fynediad i Gabriel
- ymgymryd â swyddogaethau gweinyddol ar y system
- cyflwyno Data Gwerthiannau Cynnyrch
Mynediad i Hyfforddiant ar-lein Gabriel.