Mae'r FCA yn cyhoeddi, fel mater o drefn, wybodaeth am ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau, gwybodaeth mewn rhestrau a chofrestrau, a gwybodaeth am ein gwasanaethau.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Yr FCA a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Saesneg yn unig) - mae hyn yn cynnwys sut i wneud cais 'Hawl i Wybod' am wybodaeth a'r broses ar gyfer adolygiad mewnol (Saesneg yn unig).
Ceir trosolwg o weithdrefnau'r FCA (gan gynnwys y strwythur codi tâl) ar gyfer cydymffurfio â'r gofynion o ran ymdrin â cheisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth o dan brosesau Rhyddid Gwybodaeth (Saesneg yn unig).
Dysgwch fwy am pa wybodaeth y gallwn ei rhannu â chi (Saesneg yn unig).
Canllaw i wybodaeth am y cynllun cyhoeddi
Mae'r FCA yn cyhoeddi, fel mater o drefn, wybodaeth am ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau, gwybodaeth mewn rhestrau a chofrestrau, a gwybodaeth am ein gwasanaethau. Bydd yr adrannau canlynol o'n Canllaw i wybodaeth yn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth honno.
Mae ein tudalen Canllaw i wybodaeth am y cynllun cyhoeddi (Saesneg yn unig) yn cynnwys manylion am ein trefniadau gweinyddol megis codi tâl am gyhoeddiadau, sut i wneud cais am gyhoeddiadau a sut y darperir y wybodaeth honno.
- Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud (Saesneg yn unig)
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sefydliadol, strwythurau, gyrfaoedd yn yr FCA, bywgraffiadau ein tîm gweithredol ac aelodau'r bwrdd rheoli, gwybodaeth am y sail gyfreithiol i'n gweithgareddau, a gwybodaeth am sut i gysylltu â ni. - Yr hyn rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth ariannol am incwm a gwariant rhagamcanol a gwirioneddol, caffael, contractau a gwaith archwilio ariannol. Mae'r adran hon yn cynnwys ein datganiadau ariannol a'n cyllidebau, a gwybodaeth am ein strwythur cyflogau a graddau. - Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth am ein strategaethau a'n cynlluniau, dangosyddion perfformiad, arolygiadau ac adolygiadau. Mae'r adran hon yn cynnwys ein cynllun corfforaethol a'n hadroddiadau blynyddol. - Sut rydym yn gwneud penderfyniadau (Saesneg yn unig)
Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau. Mae'r adran hon yn cynnwys ymgynghoriadau, cofnodion cryno cyfarfodydd Bwrdd yr FCA a chanllawiau mewnol. - Ein polisïau a'n gweithdrefnau (Saesneg yn unig)
Protocolau ysgrifenedig cyfredol a ddilynir gennym wrth ddarparu ein gwasanaethau a chyflawni ein cyfrifoldebau. Mae'r adran hon yn cynnwys ein polisïau a'n gweithdrefnau ar gyfer darparu ein gwasanaethau a recriwtio a chyflogi staff, ein gweithdrefn gwyno a'n polisi rheoli cofnodion. - Rhestrau a chofrestrau (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth a ddelir mewn cofrestrau sy'n ofynnol o gan y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy'n ymwneud â'n swyddogaethau. Mae'r adran hon yn cynnwys ein Cofnod datgeliadau (Saesneg yn unig). - Y gwasanaethau a gynigiwn (Saesneg yn unig)
Cyngor a chanllawiau, llyfrynnau, taflenni, cylchlythyrau a datganiadau i'r wasg. Disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigiwn.